Yr Alwad! Dyma arwyddair Poppy Evans sef Prentis Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes a Llysgennad yr Iaith Gymraeg. Cafodd Poppy ei chyflogi fel Cynorthwyydd Cymorth Busnes yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin a chyflawnodd ei Phrentisiaeth Uwch yn ddwyieithog trwy gyfrwng Saesneg a’r Gymraeg.
Darllenwch fwy i ddarganfod sut y mae Poppy wedi gwella’i sgiliau Cymraeg yn ystod ei thaith ddysgu a sut y mae’r sgiliau hyn wedi creu cyfleoedd newydd yn y gweithle a thrwy gydol ei rhaglen brentisiaeth.
Yn ystod fy amser fel Prentis Cynorthwyydd Cymorth Busnes yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, cyflawnais fy nghymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes yn ddwyieithog trwy gyfrwng Saesneg ‘r Gymraeg. Er fy mod i wedi astudio’n ddwyieithog yn yr ysgol gyfun, roedd y profiad hwn yn werthfawr o ran gwella fy sgiliau Cymraeg am fod gofyn i mi gyflawni adroddiadau a oedd yn trafod fy ngwaith a oedd yn seiliedig ar waith ac roedd hyn yn gwella fy ngeirfa Gymraeg, ar yr un pryd â sicrhau fy nefnydd parhaus a chyfle i gynnal fy sgiliau Cymraeg.
Roeddwn i’n defnyddio fy sgiliau Cymraeg yn fy ngweithle bob dydd wrth siarad â chleientiaid a chyd-weithwyr, cyfathrebu a helpu wrth gyfieithu dogfennau gweinyddol. Er mwyn dangos fy sgiliau yn ffurfiol a’u gwella, es i ar gwrs preswyl Cymraeg a ariannwyd gan Ddysgu Cymraeg ac a gynhaliwyd yn Nantgwrtheyrn. Roedd y cwrs hwn yn brofiad gwerthfawr o safbwynt gwella pob agwedd ar fy sgiliau Cymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig ar Lefel Uwch. Roedd cyflawni fy nghwrs yn ddwyieithog wedi rhoi hwb i fi hyrwyddo cyfleoedd dysgu’r Gymraeg gyda fy nghyd-weithwyr a’r buddion o’u defnyddio. Des i’n Arweinydd y Gymraeg ac yn fentor a oedd yn golygu hybu’r Gymraeg, sicrhau bod safonau’r Gymraeg yn cael eu cynnal a’u darparu yn fy ngweithle a chynorthwyo fy nghyd-weithwyr wrth ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Fel rhan o’r swyddi hyn, datblygais hyfforddiant Iaith Gymraeg gan ei ddarparu i staff gweithredol. Ymwelais â phob adran y Cyngor yn Sir Gaerfyrddin gan hyfforddi cannoedd o staff gweithredol o ran dangos iddynt le i ddod o hyd i hyfforddiant a chyfleoedd dysgu’r Gymraeg, yn ogystal â chynnal cwis Cymraeg rhyngweithiol.
Yn ystod fy mhrentisiaeth, ces i fy ngwahodd gan y Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Hyfforddiant Cyngor Gwledig Llanelli a Chyngor Sir Gaerfyrddin i fod yn Llysgennad. Roeddwn i wrth fy modd yn y rôl hon am fy mod i’n teimlo’n frwd iawn ynglŷn ag hyrwyddo buddion prentisiaethau. Roedd cyfle i fi rwydweithio ag ystod eang o unigolion ac roedd yn brofiad gwerthfawr i’w ychwanegu at fy CV.
O ganlyniad i’r holl brofiad gwaith yr enillwyd gen i yn ystod fy mhrentisiaeth, llwyddais i gael swydd amser llawn yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin fel Cydgysylltydd Digidol Ymgysylltu â Theuluoedd a Recriwtio yn y tîm Plant a Gwasanaethau Teuluol. Roedd sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon am ei bod yn golygu monitro, rheoli a chreu cynnwys dwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd y rôl hon hefyd yn cwmpasu datblygu ymgyrchoedd recriwtio ac ymgysylltu’n ddwyieithog â defnyddwyr gwasanaethau a’r cyhoedd.
Ar ôl cyflawni 4 mlynedd o wasanaeth gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin, rydw i wedi llwyddo i gael swydd newydd yn Llywodraeth Cymru. Rheolwr Darparu Cynorthwyol yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yw fy rôl newydd. Does gen i ddim amheuaeth bod y profiad a ges i o ganlyniad i’r brentisiaeth, ynghyd â’r sgiliau Cymraeg sydd gen i a ddaeth i’r amlwg yn ystod fy mhrentisiaeth wedi cyfrannu’n helaeth at gael fy mhenodi i’r swydd newydd hon. Rydw i’n teimlo’n gyffrous i barhau fy llwybr gyrfaol ac rydw i’n edrych ymlaen at y cam nesaf a fydd yn cynnwys hyfforddiant i ddod yn Rheolwr. Yn yr ysgol, roeddwn i am weithio yn y llywodraeth ac ni fyddwn i byth wedi dychmygu cyflawni’r uchelgais hon trwy’r llwybr hwn, sut bynnag, rydw i’n credu bod cyflawni a chwblhau’r brentisiaeth yn cynrychioli’r ffordd orau oll o gyflawni fy uchelgais ac fe fyddwn i’n argymell prentisiaethau i bawb.
Rydw i hefyd yn ddiolchgar i Hyfforddiant Cyngor Gwledig Llanelli ar gyfer ei gefnogaeth yn ystod fy mhrentisiaeth. Rydw i hefyd yn ddiolchgar i Gyngor Sir Gaerfyrddin am gynnal fy mhrentisiaeth a’r holl staff fy mod i wedi cael y pleser o gyd-weithio â nhw ac sydd wedi hwyluso fy mhrofiadau gwaith.
Poppy Evans
Comments