Gadewch i'ch busnes gyflawni ei botensial llawn!
Gallwn eich helpu i wneud y mwyaf o botensial eich staff presennol a'ch gweithlu yn y dyfodol, gan weithio gyda chi i sicrhau bod eich cwmni'n cael yr hyfforddiant sydd ei angen arno i aros ar y blaen.
Datblygu'r Gweithlu
Gall llawer o ddarparwyr hyfforddiant o fewn Partneriaeth SAW hefyd gynnig amrywiaeth o raglenni pwrpasol a/neu raglenni achrededig eraill i gyflogwyr i gefnogi amcanion busnes a strategaeth datblygu staff eich sefydliad. Rydym yn cynnig gwasanaeth hyfforddi hyblyg sy'n caniatáu i ddatblygiad staff gael ei gynnal ar amser ac mewn lle sy'n gweddu i'ch anghenion busnes a chyflogeion.
Ffrydiau Ariannu i Gefnogi Datblygu'r Gweithlu
Mae llawer o ddarparwyr hyfforddiant o fewn Partneriaeth SAW yn gallu cael mynediad at wahanol ffynonellau ariannu i gefnogi datblygu, cyflwyno ac achredu cyrsiau a chymwysterau i ddiwallu anghenion unigol cyflogwyr. Mae'r cyfle gwych hwn yn galluogi busnesau i adlinio eu cyllideb hyfforddi ag amcanion busnes allweddol eraill.