top of page

Prentisiaethau

Mae prentisiaeth yn rhaglen ddysgu seiliedig ar gyflogaeth. Gall prentisiaethau gefnogi eich busnes i dyfu talent newydd ffres a datblygu anghenion sgiliau eich gweithlu presennol.

Rhaglenni Prentisiaeth

Yn gyffredinol, mae prentisiaid yn gweithio am o leiaf 30 awr yr wythnos, fodd bynnag, mae nifer yr oriau y mae prentis yn eu gweithio bob wythnos yn dibynnu ar ofynion eich busnes a thelerau ac amodau cyflogai. Rhaid i brentis dderbyn yr isafswm cyflog priodol. I gael rhagor o wybodaeth am yr isafswm cyflog cenedlaethol, ewch i’r wefan yn www.gov.uk/national-minimum-wage-rates. 

Manteision i'r Sefydliad

Hyd yn oed tra bod prentis yn dilyn prentisiaeth a heb fod yn gwbl gymwys, bydd llawer o gyflogwyr yn gweld buddion economaidd yn ychwanegol at gyflogau a chostau hyfforddi. Mae sefydliadau - yn y sector cyhoeddus a phreifat - yn elwa o'r allbwn economaidd a gynhyrchir gan brentisiaid. 

 

Mae prentisiaid yn mynd trwy broses hyfforddi sy'n rhoi sgiliau newydd iddynt, ac felly ni ellir disgwyl iddynt fod mor gynhyrchiol â gweithiwr profiadol. Fodd bynnag, unwaith y bydd prentisiaid wedi'u hyfforddi, bydd y manteision i gyflogwyr o ran allbynnau prentisiaid (ee cynhyrchiant uwch) yn dechrau goddiweddyd y costau hyfforddi prentisiaid yr eir iddynt gan gyflogwyr. Y manteision mwyaf cyffredin ar gyfer cyflogi prentisiaid yw gwelliannau mewn ansawdd cynnyrch neu wasanaeth, cynhyrchiant a morâl staff. 

Fframwaith Prentisiaeth

Mae prentisiaethau ar gael ar Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 4/5 neu lefel gradd. Mae’r fframwaith prentisiaeth yn cynnwys:

  • Cymhwyster Cymhwysedd;

  • Cymhwyster Gwybodaeth;

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol;

  • Hawliau a Chyfrifoldebau Gweithwyr.

Computer Class

Recriwtio Prentis

bottom of page