
Cyflawni cyfleoedd dilyniant gyrfa
Mae LRC Training wedi bod yn darparu Prentisiaethau ar gyfer y Post Brenhinol ers 2012.
Ar y cyd ag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, mae 200 o ymgeiswyr wedi manteisio ar y cyfle i wella eu rhagolygon gyrfa.
Mae'r mwyafrif o'r ymgeiswyr hyn wedi ymgymryd â'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Cerbydau Nwyddau Gyrru ac wedi cael cyllid i uwchsgilio i drwydded LGV.
Ein 200fed Prentis yn y Post Brenhinol - Ian Jones
Wedi'i leoli yn swyddfa gyflenwi Caerfyrddin, cysylltodd Ian â'i Gynrychiolydd Undeb yn holi am gyllid ar gyfer trwyddedu LGV a chafodd wybod am y cyfle i Brentisiaethau gyda LRC Training.
Mae gan Ian drwydded C1 eisoes, ond mae am uwchsgilio trwydded Dosbarth 1 i wella ei siawns o gael gyrfa hirach a mwy gwerth chweil yn y dyfodol. Mae Ian yn gweld y Brentisiaeth fel cyfle da i ennill cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer ei sgiliau a'i wybodaeth yn y diwydiant tra'n derbyn cymorth gwerthfawr i gael ei drwydded LGV.
Beth sy'n gysylltiedig a'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Cerbydau Gyrru Nwyddau?
Beth sy'n gysylltiedig â'r Brentisiaeth Sylfaen mewn Cerbydau Gyrru Nwyddau?
Diwrnodau Hyfforddiant Oddi ar y Gwaith:
Datblygu sgiliau Llythrennedd a Rhifedd trwy ddefnyddio teclyn dysgu ar-lein a mynychu gweithdai gyda thiwtor.
Cwblhau Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol a Chymhwyso Sgiliau Rhifau Hanfodol trwy gwblhau tasgau rheoledig a phrofion cadarnhau ar y lefel ofynnol.
Dangos gwybodaeth yrru drwy ateb cwestiynau gwybodaeth sy'n ymwneud â'r unedau a ddewiswyd ar gyfer y Dystysgrif Lefel 2 mewn Cerbydau Nwyddau Gyrru.
Mae ymgeiswyr yn cadarnhau eu gwybodaeth o'u Hawliau a'u Cyfrifoldebau fel gweithiwr trwy gwblhau llyfr gwaith.
Diwrnodau Hyfforddiant Gwaith:
Mae gyrwyr yn dangos bod eu sgiliau gyrru a'u gwybodaeth yn bodloni'r safonau proffesiynol, fel y'u diffinnir gan y Cyngor Sgiliau Sector, Sgiliau ar gyfer Logisteg.
Caiff ymgeiswyr eu gweld yn y gwaith gan asesydd â chymwysterau yn y diwydiant a rhaid iddynt allu dangos ystod o gymwyseddau gan gynnwys gyrru'n effeithlon, paratoi'r cerbyd, llwytho a dadlwytho'n ddiogel ac yn gywir a chyfrannu at wasanaeth cwsmeriaid effeithiol.
Hyfforddiant Ymarferol LGV:
Bydd LRC Training yn trefnu adolygu, hyfforddi a phrofion ar gyfer Theori LGV, Canfyddiad Peryglon, CPC Gyrwyr Cychwynnol a LGV Ymarferol fel y gall ymgeiswyr gyflawni eu statws gyrrwr LGV proffesiynol llawn.
Dechreuwch eich gyrfa!
Mae LRC Training yn cynnig prentisiaethau yn y canlynol:
Gyrru cerbydau nwyddau, gweithrediadau logisteg, warysau a storio, cerbydau cludo teithwyr, gwasanaeth cwsmeriaid a gweinyddu busnes.
For more information, contact Jessica Jones at: Jessica.Jones@llanelli-rural.gov.uk
Comments