
Ar hyn o bryd mae Georgia yn dilyn y fframwaith Peirianneg Awyrofod Lefel 3 tra’n gweithio yn Aerfin Ltd. A hithau newydd gwblhau blwyddyn gyntaf ei rhaglen brentisiaeth dwy flynedd, mae hi eisoes wedi profi ei hun yn ddawn eithriadol, gan ddod â brwdfrydedd ac ymrwymiad i ragoriaeth at bopeth y mae’n ei wneud.
Mae llwyddiannau trawiadol Georgia wedi arwain at gyfle unigryw—cychwynnodd ar radd Awyrofod ym mis Medi eleni, a fydd yn ei galluogi i ddod yn beiriannydd peiriannau pŵer unwaith y bydd yn cymhwyso. Mae hwn yn gyfle rhyfeddol, gan mai dyma’r tro cyntaf i Aerfin gynnig y llwybr hwn, ac nid yw ar gael mewn prentisiaethau awyrofod eraill yn yr ardal.
Nododd Louise Burnell, Cydlynydd Awyrofod yng Ngholeg y Cymoedd:
“Mae’r fenter hon nid yn unig o fudd i Georgia ond mae hefyd yn gosod cynsail ar gyfer prentisiaid y dyfodol, gan arddangos ymrwymiad Aerfin i fuddsoddi yn nhwf a datblygiad eu gweithwyr. Bydd cyflawni ei thrwydded B1 mor ifanc yn garreg filltir i Georgia ac mae’n dystiolaeth wirioneddol o’r hyder sydd gan y busnes yn ei galluoedd. Bydd amlygu potensial Georgia hefyd yn atgyfnerthu enw da Aerfin fel cyflogwr blaenllaw yn y diwydiant awyrofod, gan ddenu mwy o ddoniau i’r economi leol.”
Yn ogystal â’i chyflawniadau academaidd a phroffesiynol, bu i Georgia â'i chyd-brentis Ellis gymryd rhan yn ddiweddar yn Her Tîm Gweithgynhyrchu Ysbrydoli Sgiliau Cymru. Er mai nhw oedd yr unig dîm o ddau, o gymharu â thimau eraill o dri, gwnaeth Georgia eu harwain at fuddugoliaeth, gan ennill Aur a phrofi mai nhw yw’r gorau yng Nghymru. Mae gwobrau fel hyn yn dod ag ymdeimlad o falchder i'r cyflogwr ac yn amlygu'r lefel uchel o sgil ac ymroddiad sy'n bresennol yn y gweithlu lleol.
Comments