
Mae Gemma Pritchard wedi cwblhau ei Diploma Lefel 3 mewn Nyrsio Deintyddol yn ddiweddar, gan arddangos y rôl hanfodol y mae nyrsys deintyddol yn ei chwarae wrth hybu iechyd y geg a chefnogi cymunedau.
Gan weithio ym Mhractis Deintyddol Gwauncaegurwen yn Nyffryn Aman, mae rôl Gemma fel nyrs ddeintyddol yn gofyn am sgiliau amldasgio eithriadol, gan gynnwys cymorth wrth ochr y gadair yn ystod gweithdrefnau deintyddol, rheoli heintiau, tawelu meddwl cleifion, a chadw cofnodion clinigol manwl gywir.
Fel dysgwr aeddfed, penderfynodd Gemma ailhyfforddi a mynd ati i gyflawni ei chymhwyster yn gynt na’r disgwyl, gan gydbwyso prentisiaeth drylwyr â’i chyfrifoldebau personol a phroffesiynol. Mae'r Diploma Lefel 3, sy'n cynnwys Arholiad Synoptig heriol, yn gofyn nid yn unig am gymhwysedd technegol ond hefyd sgiliau rhyngbersonol cryf a dealltwriaeth fanwl o ofal iechyd y geg.
Mae ei chydweithwyr yn canmol ei gallu i ddarparu cymorth tosturiol i gleifion, yn enwedig y rhai sy'n bryderus am driniaeth. Mae proffesiynoldeb ac ymroddiad Gemma wedi'i gwneud yn rhan annatod o’r practis deintyddol, lle mae wedi datblygu'r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ragori yn ei rôl yn gyflym.
Mae angerdd Gemma dros nyrsio deintyddol wedi'i ysgogi gan ei hymrwymiad i ddilyniant gyrfa ac, yn bwysicaf oll, cael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant ei chleifion. Y tu hwnt i'w dyletswyddau ar ochr y gadair, mae hi wedi mynd yr ail filltir trwy gefnogi ei chymuned. Mae'n cynnig addysg iechyd y geg hanfodol i deuluoedd ifanc mewn ardaloedd lle mae mynediad at ofal deintyddol GIG yn gyfyngedig. Mae’r gwaith allgymorth hwn yn gweddu i agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, gan gyfrannu at Gymru iachach.
Mae stori Gemma yn amlygu natur werth chweil gyrfa mewn nyrsio deintyddol a’r rôl hollbwysig y mae prentisiaethau’n ei chwarae wrth ddatblygu gweithwyr proffesiynol medrus sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau.
תגובות