top of page

Cystadleuaeth Crefft Urdd y Bricwyr Adran Cymru


Cafodd Cystadleuaeth Crefft Urdd y Bricwyr, Adran Cymru, ei chynnal yng Ngholeg y Drenewydd ym mis Mawrth 2023. Daeth cystadleuwyr o amrywiaeth o golegau a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru at ei gilydd i brofi eu sgiliau o fewn eu grŵp cyfoedion o ymgeiswyr Iau ac Hŷn. Cymerodd Katie Price a Simon Martin, prentisiaid Hyfforddiant Pathways, ran yn y gystadleuaeth hefyd.


Yn gymdeithas a ffurfiwyd yn 1932, nod yr Urdd yw hyrwyddo a chynnal y safonau uchaf o grefftwaith mewn gwaith brics. Mae cystadlaethau yn draddodiad hirsefydlog o fewn yr Urdd, yn mynd yn ôl dros 40 mlynedd. Mae gwella'r grefft o osod brics wedi elwa o'r cystadlaethau hyn.


Meddai Richard Jones, darlithydd Gwaith Brics yng Ngholeg y Drenewydd, “Dyma oedd y gystadleuaeth gyntaf i Kate, o Goleg y Drenewydd a Simon o Goleg Castell-nedd sydd ill dau ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaethau. Profodd y ddau brentis eu bod yn gallu gweithio’n dda o dan bwysau a chynhyrchwyd gwaith o safon uchel ac roeddent yn llawn haeddu eu dyfarniadau clod.”

Comments


SAW-Transparent-Logo (1).png

Academi Sgiliau Cymru
Darparwr Dysgu Seiliedig ar Waith

Ein cenhadaeth yw darparu darpariaeth o ansawdd uchel i ysbrydoli dysgwyr, cefnogi cyflogwyr a chyfoethogi cymunedau.

Ffurflen Ymholiad

Rhowch fanylion yr ymholiad yma!

Diolch am gyflwyno!

SAW Logo - White Text.png

Cyfeiriad

Academi Sgiliau Cymru

Grŵp Colegau NPTC
Heol Dwr-Y Felin
Castellnedd
SA10 7RF

Cysylltwch

  • X
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube

© 2025 Academi Sgiliau Cymru┃Cedwir pob hawl.

bottom of page