top of page

Llongyfarchiadau Robyn!

  • sawadministration
  • May 11, 2023
  • 2 min read

Dechreuodd Robyn Davies ar ei Phrentisiaeth Diploma L3 mewn Gweinyddiaeth Busnes ym mis Hydref 2021 tra’n gweithio gyda PCI Services yn Nhredegar. Yn ystod y broses ymrestru, nododd ei haseswr Tammy Barker fod Robyn yn rhugl yn y Gymraeg a chynigiodd i Robyn gwblhau’r cymhwyster trwy gyfrwng y Gymraeg. I ddechrau, gwrthododd Robyn y cynnig hwn a phenderfynodd ar ddarpariaeth Saesneg.


Ar ôl ymweliad cychwynnol gan ei haseswr, newidiodd Robyn ei meddwl ar y dull darparu a dewisodd ddull dwyieithog. Ar ôl i'w chynllun gweithredu cyntaf gael ei bennu, sef i ateb cwestiynau gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer uned orfodol, aeth Robyn at ei rheolwr a’r


asesydd i ofyn i’w gwaith ysgrifenedig gael ei gwblhau yn Gymraeg. Amlinellodd Robyn ei phryderon ynghylch gallu ateb y cwestiynau’n gywir yn Saesneg a theimlai, er nad oedd ganddi unrhyw broblemau o ran darllen a siarad, y gallai ysgrifennu yn Saesneg fod yn rhwystr posibl iddi gofnodi’r atebion gwybodaeth yn glir ac yn gryno.

Cefnogwyd cais Robyn yn llawn gan ei rheolwr llinell a hefyd yr asesydd yng Ngholeg y Cymoedd a oedd yn awyddus i Robyn gynnal ei sgiliau Cymraeg yn y gweithle ac yn ystod ei rhaglen ddysgu. Cytunodd Coleg y Cymoedd ar broses fewnol addas lle byddai cwestiynau gwybodaeth yn cael eu cyfieithu, gair am air, i alluogi'r tîm asesu a'r corff dyfarnu i farcio a dilysu tystiolaeth y portffolio yn fewnol/allanol.


Cynhyrchodd Robyn dystiolaeth bortffolio o safon uchel a gwnaeth gynnydd cyflym trwy gydol ei rhaglen gan ei bod yn gallu gweithio mewn ffordd oedd yn addas o ran ei chryfderau a'i hoff ddull dysgu. Roedd Coleg y Cymoedd yn falch iawn bod y corff dyfarnu wedi gallu darparu ar gyfer y cais a bod y dysgwr yn gallu defnyddio ei hiaith rhugl.


Cyflawnodd Robyn ei fframwaith Lefel 3 yn llwyddiannus, 4 mis yn gynt na’i dyddiad gorffen disgwyliedig, a oedd yn gyflawniad gwych. Llongyfarchiadau!

 
 
 
SAW-Transparent-Logo (1).png

Skills Academy Wales
Work-Based Learning Provider

Our mission is to deliver high quality provision to inspire learners, support employers and enrich communities.

Enquiry Form

Please provide details of enquiry here!

Thanks for submitting!

SAW Logo - White Text.png

Address

Skills Academy Wales

NPTC Group of Colleges
Dwr-Y Felin Road
Neath
SA10 7RF

Contact

  • LinkedIn
  • Facebook
  • Instagram
  • YouTube

© 2025 Skills Academy Wales. All Rights Reserved.

bottom of page