
Wedi'i sefydlu ym 1995 gan dîm o drydanwyr yn y Canolbarth, mae EOM Electrical Contractors Ltd (EOM) wedi tyfu i fod yn ddarparwr gwasanaethau trydanol, plymio, gwresogi a chynnal a chadw y gellir ymddiried ynddynt. Yn gweithredu o'i bencadlys yn y Drenewydd, mae EOM yn cyflogi 35 aelod o staff ac mae ganddo bortffolio cleientiaid trawiadol, gan gynnwys Cymdeithasau Tai, Cyngor Sir Powys, Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru, a chleientiaid masnachol a phreifat amrywiol ar draws Canolbarth Cymru.
Mae EOM wedi dod yn arweinydd mewn technolegau sy'n dod i'r amlwg, gan ragori mewn gosod pwyntiau gwefru EV, systemau Solar PV, pympiau gwres Ffynhonnell Awyr, a systemau goleuo a monitro cynhwysfawr gan ddefnyddio technoleg LoRaWAN. Mae'r cwmni'n aros ar flaen y gad o ran arloesi trwy fynychu diweddariadau gwneuthurwyr, digwyddiadau hyrwyddo, a fforymau proffesiynol. Mae EOM hyd yn oed wedi rhannu ei arbenigedd trwy gyflwyno astudiaethau achos LoRaWAN yng Nghanolfan Arloesedd Prifysgol Aberystwyth.
Am yr wyth mlynedd diwethaf, mae EOM wedi partneru â Pathways Training yng Ngholeg Y Drenewydd i gyflwyno ei raglenni prentisiaeth, gan barhau â’i ymrwymiad hirsefydlog i ddatblygu sgiliau a ddechreuai gyda Choleg Powys cyn iddo uno â Grŵp NPTC. Ar hyn o bryd, mae EOM yn cefnogi pum prentis ar draws y crefftau trydanol, plymio a gwaith coed. Mae pob prentis yn elwa o becyn offer gwerth £100 wrth ymuno, cymhorthdal ar gyfer esgidiau diogelwch a dillad gwaith, mentora yn y gweithle, a chyflogau uwch na’r hyn sy'n ofynnol.
Mewn ardal sydd â chronfa gyfyngedig o ddarpar weithwyr a phrinder cenedlaethol o grefftwyr medrus, mae EOM yn cydnabod bod buddsoddi mewn prentisiaethau yn hanfodol i gyflawni ei amcanion busnes. Mae'r cwmni'n ystyried ei staff fel ei ased mwyaf gwerthfawr ac mae wedi ymrwymo i dyfu, datblygu a chadw gweithwyr proffesiynol medrus.
Y tu hwnt i gefnogi prentisiaethau, mae EOM yn angerddol dros ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o grefftwyr. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o atebion ynni adnewyddadwy, mae'r cwmni wedi rhoi cyflwyniadau i ddisgyblion ysgolion cynradd ar ynni'r Haul a'r Gwynt, a ffynonellau ynni amgen. Mae EOM hefyd wedi partneru â thair ysgol leol i gynnig cyfleoedd profiad gwaith, gan obeithio tanio diddordeb yn y sector ac annog unigolion ifanc i ddilyn gyrfaoedd yn y crefftau - o bosibl fel prentisiaid EOM y dyfodol.
Mae ymroddiad EOM i hyfforddi a datblygu, ynghyd â'i ymagwedd flaengar at dechnoleg, yn ei gwneud yn enghraifft ddisglair o sut y gall busnesau ffynnu tra'n buddsoddi yn eu gweithlu a'r gymuned.
Comments