Mae Protech Rail Engineering yn sefyll allan fel arweinydd ym maes peirianneg ac adeiladwaith arloesol, gan ddarparu pecynnau P-Way a Pheirianneg Sifil o ansawdd uchel ar draws y Prif Reilffyrdd a Rheilffyrdd Diwydiannol a Threftadaeth. Gyda phrosiectau ar draws Cymru, mae Protech yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy i ddysgwyr yn eu Hacademi Hyfforddiant gymhwyso eu sgiliau a chael profiad ymarferol dan arweiniad peirianwyr profiadol.
Mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd, mae Academi Hyfforddiant Protech yn cefnogi dysgwyr newydd trwy’r Brentisiaeth Peirianneg Rheilffyrdd a Chynnal a Chadw Traciau.
Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r sgiliau, yr hyfforddiant sy’n hanfodol i ddiogelwch, a’r wybodaeth am y diwydiant y mae eu hangen ar brentisiaid i gyrannu’n hyderus ac yn gymwys at brosiectau rheilffyrdd yn y sector arbenigol hwn.
Rhannodd Daniel Rivers o Protech Rail Engineering ei sylwadau: "Credwn yn gryf mai’r brentisiaeth rheilffyrdd yw’r llwybr gorau ar gyfer unigolion sydd â diddordeb yn y diwydiant rheilffyrdd. Mae'n eu galluogi i gymhwyso fel gweithredwyr traciau rheilffordd tra chymwys. Yn Academi Hyfforddiant Protech, rydym yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant o ansawdd gwych gyda'r lefel gywir o gefnogaeth i helpu prentisiaid i gyflawni eu potensial llawn."
Mae’r rhaglen brentisiaeth wedi’i dylunio i sicrhau bod dysgwyr yn graddio’n barod ar gyfer diwydiant, gyda’r holl sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol sydd eu hangen i ragori yn eu gyrfaoedd. Drwy gydweithio’n agos â Choleg y Cymoedd a phartneriaid yn y diwydiant, mae Protech wedi teilwra’r fframwaith prentisiaeth i ddiwallu anghenion esblygol y sector rheilffyrdd. Mae hyn yn sicrhau bod prentisiaid yn cael eu hyfforddi mewn sgiliau sy'n berthnasol ac yn werthfawr iawn yn y diwydiant.
Mae ymrwymiad Protech Rail Engineering i feithrin doniau a datblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y rheilffyrdd yn tanlinellu eu hymroddiad i siapio gweithlu medrus ac arloesol ar gyfer dyfodol diwydiant rheilffyrdd y DU.
Comments