Rydym yn falch o adrodd bod ein hastudiaeth achos ymarfer effeithiol, o'r enw "Rhagweld datblygiadau yn y farchnad lafur a diwallu anghenion gweithlu prosiectau rhanbarthol" wedi cael ei chyhoeddi gan Estyn yn dilyn ein harolygiad dysgu seiliedig ar waith diweddar ym mis Mai 2023. Mae'r astudiaeth achos yn manylu ar sut mae Partneriaeth Academi Sgiliau Cymru, dan arweiniad Grŵp Colegau NPTC, yn cychwyn ac yn ymateb i anghenion hyfforddi busnesau mewn rhanbarthau lleol ledled Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Cyrchwch y ddolen i ddarllen yr erthygl lawn am gydberthnasau cydweithredol y Bartneriaeth â rhanddeiliaid allanol a'r manteision i fusnesau yn y sectorau blaenoriaeth: www.estyn.gov.wales/effective-practice/anticipating-labour-market-developments-and-meeting-workforce-needs-regional
Comments