Sefydlwyd Academi Sgiliau Cymru fel y Bartneriaeth Dysgu Seiliedig ar Waith gyntaf o'i bath yng Nghymru ym mis Hydref 2009. Mewn ymateb i'r heriau a nodir yn yr Agenda Trawsnewid ar gyfer Addysg Ôl-16 yng Nghymru, daeth y Bartneriaeth ag ystod amrywiol o raglenni rhagorol ynghyd a darparwyr DSW o'r un anian sy'n parhau i arwain ar yr heriau hyn drwy ehangu'r opsiynau sydd ar gael i bob dysgwr a lleihau dyblygu costus o ran darpariaeth.
Ers 1 Awst 2010, mae'r Bartneriaeth wedi bod yn gweithredu fel contract sengl, dan arweiniad Grŵp Colegau NPTC, ar gyfer darparu rhaglenni dysgu seiliedig ar waith.
Ar hyn o bryd mae gan y Coleg un o’r comisiynau mwyaf gyda Medr i ddarparu’r ystod ehangaf o Brentisiaethau mewn dros 50 o feysydd galwedigaethol, yn amrywio o Lefelau 2 i 5.
Ar hyn o bryd mae SAW yn darparu ar draws ardal ddaearyddol amrywiol iawn sy'n cwmpasu Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir y Fflint, Wrecsam, Powys, Sir Fynwy, Casnewydd, Caerdydd a Bro Morgannwg.

.png)
