top of page

Ein Peirianwyr y Dyfodol


Mae Coleg y Cymoedd, trwy bartneriaeth Academi Sgiliau Cymru, wedi gweithio’n agos gydag Aspire Blaenau Gwent ers 8 mlynedd mewn perthynas â’r Rhaglen Prentisiaethau a Rennir, gyda’r nod o gynyddu ymgysylltiad â diwydiant lleol ar gyfer prentisiaethau er mwyn bodloni prinder sgiliau a chreu cyfleoedd cyflogaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, mae dros 100 o brentisiaid wedi llwyddo i gwblhau fframweithiau a chyflawnwyd hyn drwy Aspire yn ymgysylltu â thros 50 o gyflogwyr lleol gan eu helpu i lenwi bylchau sgiliau ac ailgyflenwi’r gweithlu sy’n heneiddio.


Mae Aspire Blaenau Gwent wedi bod yn cynnal digwyddiadau Her Addysg LEGO® blynyddol gydag ysgolion uwchradd yn yr ardal ers sawl blwyddyn. Gan weithio ar y cyd â Chanolfan Addysg Eden a defnyddio deunyddiau ac adnoddau Addysg LEGO®, cynhelir cyfres o ragbrofion mewn ysgolion o amgylch Blaenau Gwent, gyda’r timau o ddarpar Beirianwyr sy’n perfformio orau yn cael eu gwahodd i fynychu digwyddiad cystadleuaeth olaf mewn lleoliad niwtral.


Meddai Andrew Bevan, Arweinydd Tîm Prentisiaethau a Sgiliau CBSBG; “Mae digwyddiadau Her Addysg LEGO® yn ffordd hwyliog a chyffrous o ymgysylltu ag ysgolion uwchradd ledled y fwrdeistref sirol, gan hyrwyddo manteision Prentisiaethau gyda’n pobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth o’r ystod gynhwysfawr o yrfaoedd Peirianneg sydd ar gael ym Mlaenau Gwent a’r cyffiniau. Rydym hefyd yn gwahodd Prentisiaid Aspire presennol a fydd wedi mynychu’r ysgolion hyn i fod yn feirniaid cystadlaethau, sy'n rhoi enghreifftiau perthnasol i’r myfyrwyr a’r cyfle i drafod y daith Prentisiaeth o’r ysgol i ddiwydiant lleol gyda’r Prentisiaid hynny. Rydyn ni’n cael ymateb gwych gan yr holl gyfranogwyr, gan obeithio eu hysbrydoli i fod yn Beirianwyr y dyfodol.”


ความคิดเห็น